Cynllun Pensiwn Heddlu

Oedran Ymddeol

Gallwch ymddeol cyn gynted ag yr ydych yn 55 oed, ond rhaid i chi ymddeol nid hwyrach na’r ‘oed ymddeol gorfodol’ ar gyfer eich rheng, oni bai bo Heddlu Dyfed-Powys wedi cymeradwyo estyniad i’r gwasanaeth. Rhaid i chi roi mis o leiaf o rybudd i Heddlu Dyfed-Powys eich bod yn dymuno ymddeol. Ni ellir talu pensiwn i chi cyn cyrraedd 55 oed, heblaw am bensiwn salwch.

Os ydych wedi cwblhau 35 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy yn Cynllun 2006 (neu y byddech wedi gallu gwneud hynny pe na fyddech wedi gadael y Cynllun) ac yr ydych yn 55 oed o leiaf, gall Heddlu Dyfed-Powys fynnu eich bod yn ymddeol ar y sail na fyddai er lles effeithlonrwydd yn gyffredinol i’ch cadw yn y llu.

Os ydych yn dod yn barhaol anabl ar unrhyw oed i gyflawni dyletswyddau cyffredin aelod o’r heddlu gall Heddlu Dyfed-Powys fynnu eich bod yn ymddeol ar sail salwch.