Gofal Cwsmer
Rydym yn eich gwerthfawrogi chi fel aelod ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i chi ar bob cam o'ch aelodaeth yn y cynllun.
Rydym wedi ymrwymo i ddelio'n effeithiol ag adborth sydd gennych am ein gwasanaethau. Os ydym wedi gwneud camgymeriad byddwn yn ymddiheuro ac yn ceisio unioni'r sefyllfa cyn gynted â phosibl.
Rydym yn adolygu cwynion yn rheolaidd ac lle bynnag y bo'n bosibl, defnyddiwn y wybodaeth hon i wella'r ffordd yr ydym yn gwneud pethau. Rydym hefyd yn croesawu sylwadau a chanmoliaeth am y gwasanaethau yr ydym wedi'u darparu.
Os ydych yn dymuno cysylltu â Chronfa Bensiwn Dyfed, gwnewch ddefnydd o'r dudalen Cysylltu â Ni.
Dalier Sylw
Os oes gennych gwyn neu anghydfod ynglŷn â'ch trefniadau pensiwn galwedigaethol neu personol, dylech gysylltu â:
Yr Ombwdsman Pensiynau
Gwefan: www.pensions-ombudsman.org.uk/cymraeg/
Os oes gennych chi geisiadau cyffredinol am wybodaeth neu arweiniad ynglŷn a'ch trefniadau pensiwn, cysylltwch â:
Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau
Gwefan: www.pensionsadvisoryservice.org.uk/about-us/our-website/cymraeg