Cynllun Pensiwn Heddlu

Cynyddu eich Buddion

Gallwch ddewis cynyddu eich buddion pensiwn, yn neilltuol os na fydd modd i chi grynhoi 35 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy cyn cyrraedd yr oed y bwriadwch ymddeol. Mae gennych y dewis o brynu rhagor o fudd-daliadau yn Cynllun 2006 drwy Flynyddoedd Ychwanegol.

Mae gennych hefyd yr hawl i dalu i gynllun pensiwn personol hollol ar wahân ar yr un adeg ac yr ydych yn cyfrannu i Cynllun 2006.

Os oes gennych lai na 35 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy, mae’n bosib y bydd modd i chi brynu hyd at 5 mlynedd o wasanaeth ychwanegol i gynyddu eich budd-daliadau yn Cynllun 2006 ar ymddeol. Fodd bynnag, bydd y gyfradd gyfrannu hon yn ddrytach na’r gyfradd gyfrannu arferol gan NA fydd Heddlu Dyfed-Powys, sy’n talu at eich budd-daliadau sylfaenol, yn cyfrannu at brynu blynyddoedd ychwanegol.

Fel arfer, mae prynu ‘blynyddoedd ychwanegol’ yn golygu ymrwymiad hirdymor i dalu cyfraniadau nes yr ydych yn ymddeol neu’n gadael y Cynllun. Caiff eich cyfraniadau ar gyfer budd-daliadau ychwanegol eu cyfrif fel canran o’ch cyflog ac felly byddant yn cynyddu bob tro y mae eich cyflog yn cynyddu, yn yr un modd â’r budd-daliadau a ddarperir gan y pryniant.

Os ydych yn penderfynu prynu ‘blynyddoedd ychwanegol’ o fewn 12 mis o ymuno neu ailymuno â’r llu, cewch y dewis o dalu’r cyfraniadau ychwanegol drwy eu tynnu o’ch cyflog, neu drwy wneud cyfandaliad. Os ydych am dalu drwy gyfrwng cyfandaliad, ni chewch ostyngiad yn y dreth ond hyd at gyfanswm eich enillion trethadwy yn y flwyddyn dreth.

Os ydych yn gweithio’n rhan-amser, mae gennych y dewis o brynu ‘blynyddoedd ychwanegol’ naill ai ar sail llawn amser neu rhan-amser (fydd yn costio llai fel canran o’ch cyflog ond bydd yn prynu llai o wasanaeth ychwanegol i chi).

Os ydych yn ymddeol cyn y dyddiad yr oeddech wedi bwriadu ymddeol, neu’n gadael y gwasanaeth gyda hawl i bensiwn gohiriedig neu werth trosglwyddo, bydd cyfran briodol o’r budd-daliadau ychwanegol yr oeddech yn eu prynu yn cael eu credydu i chi. Os ydych yn marw neu’n ymddeol oherwydd salwch a chithau wedi prynu, neu wrthi’n prynu, blynyddoedd ychwanegol drwy gyfandaliad neu randaliadau rheolaidd, bydd cyfanswm y blynyddoedd ychwanegol yr oeddech wedi dewis eu prynu yn cael eu credydu i chi.

Dalier Sylw

NID oes gan Cynllun 2006 gynllun Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) cysylltiedig.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gosod terfynau cyffredinol ar gyfraniadau pensiwn i’w tynnu cyn treth, ond maent yn hael iawn. Ar hyn o bryd, os nad ydych yn ennill cyflog uchel iawn, mae modd i chi dalu hyd at holl eich enillion trethadwy mewn blwyddyn dreth yn gyfraniadau pensiwn i’w tynnu cyn talu treth, er y gallai’r swm hwnnw gael ei gyfyngu mewn unrhyw flwyddyn os bydd eich hawliau pensiwn o dan Cynllun 2006 wedi cynyddu’n sylweddol (er enghraifft, os ydych wedi cael dyrchafiad neu wedi cael eich penodi i swydd uwch).

Argymhellir yn gryf eich bod yn ceisio Cyngor Ariannol Annibynnol cyn cymryd unrhyw gamau i brynu budd-daliadau ychwanegol. Ni all eich awdurdod heddlu roi cyngor ariannol i chi.