Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Ysgariad

Mewn achos o ysgariad, diddymu partneriaeth sifil, dirymu priodas neu wahanu barnwrol gall y llys orchymyn y CDT 1992 i dalu rhan neu’r cyfan o hawl aelod i fudd-daliadau i gyn-briod neu gyn-partner sifil. Gallai hyn fod yn unol â gorchymyn Clustnodi neu orchymyn Rhannu Pensiwn.

Gallai gorchymyn Clustnodi ymwneud â rhan neu’r cyfan o’ch pensiwn ymddeol, cyfandaliad arfaethedig neu o bosib eich grant marwolaeth. Os ydych wedi ymddeol eisoes, gall y gorchymyn fynnu bod eich pensiwn yn cael ei dalu’n ddi-oed i’ch cyn-briod neu gyn-bartner sifil. Os ydych yn aelod gweithredol neu ohiriedig ni ddaw’r gorchymyn i rym nes bo’r budd-daliadau yn daladwy.

Mae gorchymyn Rhannu Pensiwn yn dod i rym yn ddi-oed. Byddai’r llys yn cyfarwyddo bod canran gwerth eich budd-daliadau yn cael ei dynnu i ddarparu hawliau credyd pensiwn i’ch cyn-briod neu cyn-bartner sifil. Mae’r hawliau credyd pensiwn yn parhau yn CDT 1992 nes bo’r unigolyn yn gymwys i’w derbyn ar gyrraedd 60 oed (neu fe’u telir yn ddi-oed os yw ef/hi eisoes wedi cyrraedd yr oed hwnnw); ni ellir eu trosglwyddo i drefniant pensiwn arall. Os yw aelod credyd pensiwn yn marw cyn cyrraedd 60 oed bydd grant marwolaeth yn cael i’w dalu i’w gynrychiolwyr personol.

Fel arfer bydd y llys yn disgwyl i’r ddau barti ddarparu gwybodaeth am werth presennol a gwerth arfaethedig eu hawliau pensiwn ynghyd â rheolau’r cynllun(iau) pensiwn y dalir yr hawliau ynddynt. Gall eich Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA) ddarparu’r wybodaeth hon i chi a rhoi gwybodaeth gyffredinol ynghylch effaith ysgariad/diddymu ar hawliau pensiwn.

Dalier Sylw

Fel arfer bydd gofyn i chi gyflwyno Gwerth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod (CETV) o’ch buddion pensiwn i’n galluogi i asesu eich buddion ariannol. Er mwyn cael y wybodaeth hyn, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed.