Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Buddion Marwolaeth

Os ydych yn marw yn ystod eich gwasanaeth a chithau’n aelod o GDT 1992, bydd grant marwolaeth yn daladwy. Fel arfer bydd hwnnw’n ddwywaith eich cyflog pensiynadwy ar ddyddiad y farwolaeth neu, os oeddech yn absennol yr adeg honno, ddwywaith waith eich cyflog pensiynadwy yn union cyn i’ch absenoldeb ddechrau. Os ydych yn gweithio’n rhan-amser bydd y cyflog pensiynadwy yn ôl y raddfa ran-amser.

Mae rheolau treth yn atal talu grant marwolaeth mewn perthynas ag unigolyn sydd wedi cyrraedd 75 oed ond mae’n annhebygol y byddai diffoddwr tân yn dal i wasanaethu yn yr oed hwnnw.

Byddai’r Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA) yn talu'r grant marwolaeth i'ch briod neu bartner sifil cyfreithiol a bwrw nad oeddech yn byw ar wahân adeg y farwolaeth. (Mae hyn yn golygu mwy na gwahaniad corfforol e.e. a fyddai’n wir yn achos diffoddwr tân i ffwrdd o gartref yn mynychu cwrs hyfforddiant; mae’n awgrymu bod o leiaf un o’r pâr priod neu’r partneriaid yn cydnabod bod y briodas neu’r bartneriaeth wedi dod i ben).

Os ydych yn ddi-briod, heb fod mewn partneriaeth sifil, a heb fod yn byw ar wahân, bydd y grant marwolaeth yn cael ei dalu i’w gynrychiolydd personol.

  • Buddion Goroeswyr
  • Pensiynau Plant

Dalier Sylw

NID oes grant marwolaeth yn daladwy os yw’r diffoddwr tân, adeg ei farwolaeth, eisoes wedi gadael y gwasanaeth neu wedi gadael Cynllun 1992.