Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Cynllun Pensiwn Tân 2007

Mae’r adran hon yn berthnasol i’r aelodau actif hynny y rhoddwyd diogelwch iddynt yng Nghynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (y cyfeirir ato fel CPT 2007 drwy’r adran hon i gyd).

Mae hefyd yn berthnasol i’r Diffoddwyr Tân hynny sydd wedi gadael CPT 2007 gyda budd gohiriedig, neu i’r rheiny sydd eisoes yn cael pensiwn a ddyfarnwyd o dan GPT 2007.

Dalier Sylw

Gellir gweld mwy o wybodaeth am ddiwygio Cynllun y Diffoddwyr Tân (CPDT) ar wefan y Llywodraeth.

Oherwydd newid yn rheoliadau'r CPT 2007 (Cymru) ar 1af Mehefin 2018, nid yw'n ofynnol i chi enwebu partner sy'n cyd-fyw bellach i gael pensiwn goroeswr ar ôl eich marwolaeth. Fodd bynnag, gall eich Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA) ofyn i chi gwblhau'r ffurflen enwebu partner sy'n cyd-fyw priodol er mwyn cadw eu cofnodion yn gyfoes.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, fel awdurdod gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a gweinyddwr Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu a Diffoddwyr Tân, yn defnyddio eich data personol yn unol â’r ddeddfwriaeth Diogelu Data i ddarparu gwasanaethau gweinyddu pensiwn i chi. Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio'ch data, pwy rydym yn ei rhannu â, a pha hawliau sydd gennych chi mewn perthynas â'ch gwybodaeth, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Bensiwn Dyfed.