Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Gadael y Cynllun

Os nad ydych yn dymuno bod yn aelod yn CPT 2007, gallwch adael unrhyw adeg drwy roi rhybudd ysgrifenedig i’r Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA). Bydd y rhybudd yn dod i rym o’r dyddiad cyflog nesaf.

Os oes gennych lai na 3 mis o wasanaeth cymwys pan ddaw’r rhybudd i rym, fel arfer bydd y cyfraniadau a daloch yn cael eu had-dalu i chi. Os oes gennych 3 mis neu fwy o wasanaeth cymwys, mae’r dewis gennych i drosglwyddo’r hawliau pensiwn a gronnwyd i drefniant pensiwn arall, neu pensiwn gohiriedig.

Ni fyddech mwyach yn derbyn buddion CPT 2007 (heblaw am y rheiny a ddarperir gan bensiwn gohiriedig). Os yn y man, y byddwch yn newid eich meddwl ac yn dymuno ail ymuno, byddwch wedyn yn ymuno a CPT 2015. Bydd eich dewis i ail ymuno yn dod i rym ddechrau’r cyfnod cyflog nesaf.

  • Ad-daliad o'ch Cyfraniadau
  • Buddion Gohiriedig
  • Trosglwyddo eich Buddion

Dalier Sylw

Cofiwch geisio Cyngor Ariannol Annibynnol os ydych yn ystyried gadael CPT 2007. Byddwch yn arbed costau’r cyfraniadau wrth beidio â bod yn aelod, ond byddwch mwy na thebyg yn talu mwy na hynny mewn treth (mae gostyngiad yn y dreth ar gyfer cyfraniadau) ac mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol (rydych yn talu’r raddfa is yn aelod o CPT 2007, gan fod y cynllun wedi’i gontractio allan). Hefyd, byddwch chi a’ch dibynyddion yn colli’r manteision o fod yn aelod o CPT 2007.