Tâlu eich Buddion
Telir pensiynau ymlaen llaw mewn rhandaliadau rheolaidd gan Cyngor Sir Gâr (ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA). Mae cyfandaliadau yn sgil cyfnewid yn daladwy yn ddi-oed yn dilyn diwrnod olaf eich gwasanaeth yn ddibynnol ar fod yr Awdurdod wedi derbyn yr holl wybodaeth angenrheidiol.
Mae gan y GTA ddisgresiwn ynghylch i bwy y bydd yn talu dyfarndaliad i unigolyn dan oed, ond rhaid iddo gael sicrwydd y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio er lles yr unigolyn hwnnw. Yn yr un modd, os yw taliad yn ddyledus i unigolyn, nad yw bellach yn abl i warchod ei fuddiannau, mae gan yr awdurdod ddisgresiwn i’w dalu i unigolyn arall fel y gwêl yn dda.
Os bydd y GTA yn dioddef colled ariannol oherwydd twyll, dwyn neu esgeulustod ar ran y diffoddwr tân mewn perthynas â’i gyflogaeth gall yr GTA gadw’n ôl ran neu’r cyfan o’r swm a gollwyd (yn unol, mewn achos o anghydfod, â gorchymyn llys).