Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Cyfrifo eich Buddion

Cynllun pensiwn cyflog terfynol yw CPDT 2007, sy’n golygu y bydd eich pensiwn yn gyfran o’ch cyflog pensiynadwy cyfartalog terfynol. Bydd y gyfran yn dibynnu’n rhannol ar faint o wasanaeth pensiynadwy sydd gennych yr adeg yr ydych yn gadael y cynllun. Am bob blwyddyn o wasanaeth pensiynadwy, rydych yn cael 1/60fed o’ch cyflog terfynol yn bensiwn blynyddol.

Fel diffoddwr tân llawn amser neu ran-amser, mae pob diwrnod o wasanaeth pensiynadwy yn cyfrif fel 1/365fed o 1/60fed. Er enghraifft, os ydych yn ymddeol yn 60 oed a gennych 35 mlynedd a 28 diwrnod o wasanaeth pensiynadwy a chyflog pensiynadwy terfynol sy’n £32,000, caiff eich pensiwn ei asesu fel a ganlyn:

35mlynedd 28/365 diwrnod x 1/60fed x £32,000 = £18,707.58 pensiwn blynyddol

Wrth ymddeol, bydd gennych hefyd y dewis o gyfnewid rhywfaint o’ch pensiwn am gyfandaliad di-dreth.

Beth os wyf yn Ddiffoddwr Tân Wrth Gefn?

Os ydych yn ddiffoddwr tân wrth gefn mae’r egwyddorion ynghylch cyfrif eich budd-daliadau yn wahanol i’r rhai hynny a nodir uchod, oherwydd y gwahaniaeth yn y cyflog pensiynadwy a’r ffaith nad ydych wedi eich contractio ar gyfer nifer penodol o oriau.

  • Gwasanaeth Pensiynadwy
  • Enillion Pensiynadwy
  • Cyfnewid eich Pensiwn
  • Diffoddwyr Tân Wrth Gefn