Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Ysgariad

Mewn achos o ysgariad, diddymu partneriaeth sifil, dirymu priodas neu wahanu barnwrol gall y llys orchymyn cynllun pensiwn i dalu rhan neu’r cyfan o hawl aelod i bensiwn i gyn-briod neu gyn-bartner sifil. Gallai hyn fod yn unol â gorchymyn Clustnodi neu orchymyn Rhannu Pensiwn.

Gallai gorchymyn Clustnodi ymwneud â rhan neu’r cyfan o’ch pensiwn ymddeol, cyfandaliad arfaethedig neu o bosib eich grant marwolaeth. Os ydych wedi ymddeol eisoes, gall y gorchymyn fynnu bod eich pensiwn yn cael ei dalu’n ddi-oed i’ch cyn-briod neu gyn-bartner sifil. Os ydych yn aelod gweithredol neu ohiriedig ni fydd y gorchymyn yn dod i rym nes mae’r budd-daliadau yn daladwy.

Mae gorchymyn Rhannu Pensiwn yn dod i rym yn ddi-oed. Byddai’r llys yn cyfarwyddo bod canran gwerth eich budd-daliadau yn cael ei dynnu i ddarparu 'hawliau credyd pensiwn' i’ch cyn-briod neu gyn-bartner sifil. Mae’r hawliau credyd pensiwn yn parhau yn CPT 2007 nes bo’r unigolyn yn gymwys i’w derbyn (ar gyrraedd 65 oed). Gellir cyfnewid y credyd pensiwn i ddarparu cyfandaliad.

Ni ellir ei drosglwyddo i drefniant pensiwn arall.

Dalier Sylw

I gael rhagor o wybodaeth, neu i gael Gwerth Trosglwyddo Gyfwerth ag Arian Parod (CETV) o’ch buddion pensiwn, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed.