Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Diogelwch y Cynllun

Bydd yr holl aelodau sydd heb ei amddiffyn wedi trosglwyddo i GPT 2015 ar 1 Ebrill 2015.

Os, o'r 1 Ebrill 2012, yr oeddech o fewn 10 mlynedd o'ch Oedran Pensiwn Arferol (OPA) o dan CPT 2007 h.y. a anwyd cyn 1 Ebrill 1967 ac o'r 1 Ebrill 2012, yn 45 mlwydd oed neu'n hŷn, bydd DIM newid i'ch oedran ymddeol, ac ni fydd unrhyw ostyngiad i'r swm pensiwn y byddwch yn ei dderbyn ar eich Oedran Pensiwn Arferol. Os yw hyn yn wir, ystyrir eich bod yn aelod â gwarchodaeth trosiannol ac felly bydd yn parhau i fod yn CPT 2007 ac ni fydd yn trosglwyddo i CPT 2015.

Mae 4 blynedd arall o warchodaeth dwys ar gyfer aelodau gweithredol, a oedd, o'r 1 Ebrill 2012, hyd at 14 mlynedd o'u OPA presennol o dan CPT 2007 h.y. a anwyd rhwng 1 Ebrill 1967 a'r 1 Ebrill 1971 ac felly rhwng 41 a 45 mlwydd oed. I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd y gwarchodaeth dwys yn berthnasol, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed.

Dalier Sylw

Caiff yr holl hawliau cronedig yn y CPT 2007 eu gwarchod a bydd y buddion blaenorol hynny yn parhau i gael eu cysylltu â'ch tâl pensiynadwy terfynol pan fyddwch yn gadael y CPT 2015.