Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Oedran Ymddeol

Byddai ymddeoliad ar sail oed yn cael ei dalu i ddiffoddwr tân sy’n meddu ar ddigon o wasanaeth i fod yn gymwys i dderbyn pensiwn ac sy’n ymddeol ar gyrraedd 60 oed neu ar ôl hynny.

Fodd bynnag, gall y Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA) awgrymu y dylid ei ymddeol yn gynnar er lles rheolaeth y gwasanaeth, ond rhaid bod gan y ddiffoddwr tân digon o wasanaeth i fod yn gymwys i dderbyn pensiwn, wedi cyrraedd 55 oed ond nid eto’n 60 oed. Yn yr achos hyn, NI fyddai’r pensiwn yn cael ei leihau oherwydd ei fod yn cael ei dalu’n gynnar.

Gall yr aelod penderfynu ymddeol yn gynnar wedi cyrraedd 55 oed, ond nid eto’n 60 oed, ond rhaid cael digon o wasanaeth i fod yn gymwys i dderbyn pensiwn. Yna bydd y pensiwn yn cael ei leihau i adlewyrchu’r ffaith bod yn cael ei dalu’n gynnar. Darperir y ffactor lleihau gan Actiwari’r Llywodraeth. Ar hyn o bryd mae’n 5% am bob blwyddyn rhwng dyddiad yr ymddeoliad a 65 oed (oed pensiwn gohiriedig).