Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Cyfraniadau

Fel aelod o CPT 2007, mae eich cyfraniad yn seiliedig ar drefniant bandio.

Y cyflog pensiynadwy y seilir y cyfraniadau arno yw’r cyflog craidd a’r holl enillion parhaol a bennir gan rôl y diffoddwr tân, neu yn achos prif swyddog, y cyflog sy’n briodol i ddyletswyddau cyffredinol y swydd. Bydd hefyd yn cynnwys unrhyw lwfans wrth gefn a delir i aelod sydd ar gontract wrth gefn.

Gwelir y trefniant o 1 Ebrill 2021 tan 31 Mawrth 2022 isod.

Eich Band Cyflog Pensiynadwy Eich Cyfradd Cyfrannu
Hyd at ac yn cynnwys £15,609 8.50%
Mwy na £15,609 a hyd at ac yn cynnwys £21,852 9.40%
Mwy na £21,852 a hyd at ac yn cynnwys £31,218 10.40%
Mwy na £31,218 a hyd at ac yn cynnwys £41,624 10.90%
Mwy na £41,624 a hyd at ac yn cynnwys £52,030 11.20%
Mwy na £52,030 a hyd at ac yn cynnwys £62,436 11.30%
Mwy na £62,436 a hyd at ac yn cynnwys £104,060 11.70%
Mwy na £104,060 a hyd at ac yn cynnwys £124,872 12.10%
Mwy na £124,872 12.50%

Dalier Sylw

Os ydych yn gweithio’n rhan-amser, bydd y cyfraniadau yn cael eu tynnu o’ch cyflog rhan-amser.