Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Gofal Cwsmer

Rydym yn eich gwerthfawrogi chi fel aelod ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i chi ar bob cam o'ch aelodaeth yn y cynllun.

Rydym wedi ymrwymo i ddelio'n effeithiol ag adborth sydd gennych am ein gwasanaethau. Os ydym wedi gwneud camgymeriad byddwn yn ymddiheuro ac yn ceisio unioni'r sefyllfa cyn gynted â phosibl.

Rydym yn adolygu cwynion yn rheolaidd ac lle bynnag y bo'n bosibl, defnyddiwn y wybodaeth hon i wella'r ffordd yr ydym yn gwneud pethau. Rydym hefyd yn croesawu sylwadau a chanmoliaeth am y gwasanaethau yr ydym wedi'u darparu.

Os ydych yn dymuno cysylltu â Chronfa Bensiwn Dyfed, gwnewch ddefnydd o'r dudalen Cysylltwch â Ni.

Gweithdrefn Datrys Anghydfod Mewnol (GDAM)

Pan fo aelod, neu eich ddibynnydd, yn anfodlon ar benderfyniad a wnaed gan GTA (neu ar fethiant GTA i wneud penderfyniad), bydd hawliau apelio ar gael iddo. Mae gweithdrefn apelio ar gael i rywun sy’n anfodlon ar benderfyniad a wnaed ar sail barn feddygol, os yw’n credu mai’r farn feddygol oedd ar fai. Ac ar gyfer anghydfodau eraill, rhaid i’r awdurdod fod wedi sefydlu trefniadau ar gyfer Gweithdrefn Datrys Anghydfod Mewnol (GDAM) sy’n seiliedig ar ofynion Deddf Pensiynau 1995.

Os yw’r person yn anfodlon ar y dyfarniad ac y tybio mai’r farn feddygol sy’n anghywir, caiff apelio i Fwrdd Canolwyr Meddygol yn erbyn y farn honno. (Cyn cyrraedd y cam hwnnw, fodd bynnag, os darperir tystiolaeth newydd o natur feddygol gan yr aelod, ac os yw’r aelod a’r awdurdod yn cytuno, gellir gofyn i’r Ymarferydd Meddygol Cymwysedig Annibynnol (YMCA) adolygu’r farn feddygol yng ngoleuni’r dystiolaeth newydd).

Os yr hyn sy’n tramgwyddo aelod, dibynnydd neu aelod â chredyd pensiwn o'r Cynllun yw penderfyniad a wnaed gan yr GTA nad yw’n ymwneud â chynnwys unrhyw farn feddygol, gall y person a dramgwyddwyd ddefnyddio GDAM i geisio datrys yr anghydfod. Bydd y GTA yn ystyried yr anghydfod ac yn cyflwyno ymateb ysgrifenedig.

Am ragor o wybodaeth ynghylch y gweithdrefn apelio meddygol, y broses GDAM a'r terfynau amser perthnasol, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Tân ac Achub.

Dalier Sylw

Os oes gennych gwyn neu anghydfod ynglŷn â'ch trefniadau pensiwn galwedigaethol neu personol, dylech gysylltu â:

Yr Ombwdsman Pensiynau 

Gwefan: www.pensions-ombudsman.org.uk/cymraeg/

Os oes gennych chi geisiadau cyffredinol am wybodaeth neu arweiniad ynglŷn a'ch trefniadau pensiwn, cysylltwch â:

Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau   

Gwefan: www.pensionsadvisoryservice.org.uk/about-us/our-website/cymraeg