Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Cynyddu eich Buddion

Os ydych yn aelod gweithredol o CPT 2007 ac nid oes modd i chi gronni 40 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy erbyn 60 oed, gallwch brynu gwasanaeth ychwanegol drwy dalu cyfraniadau ychwanegol neu gyfandaliad. Byddai’r cyfraniadau ychwanegol a’r cyfandaliad yn seiliedig ar ffactorau a ddarperir gan Actiwari’r Llywodraeth.

Rhaid gwneud y dewis i brynu cyfraniadau ychwanegol 2 flynedd o leiaf cyn oed arferol pensiwn (60) Dechreuir tynnu’r cyfraniadau ychwanegol o ddyddiad eich pen-blwydd cyntaf yn dilyn eich dewis i wneud y taliadau, ynghyd â’ch cyfraniadau sylfaenol. Fel eich cyfraniadau sylfaenol caiff y cyfraniadau ychwanegol eu hasesu ar eich cyflog pensiynadwy.

Os ydych yn gadael y Cynllun neu’n stopio talu’r cyfaniadau am unrhyw reswm arall cyn cyrraedd 60 oed bydd cyfran briodol o’r gwasanaeth a brynwyd gennych yn cael ei gredydu i chi. Os ydych yn dewis talu drwy gyfwng cyfandaliad rhaid i chi ddewis gwneud hynny cyn pen 12 mis o ddod yn aelod am y tro cyntaf a rhaid i’r taliad gael ei wneud cyn pen 3 mis o roi rhybudd eich bod yn dymuno talu.

Bydd unrhyw wasanaeth a brynwch yn cael ei ystyried wrth gyfrif eich budd-daliadau pensiwn

Dalier Sylw

Os ydych yn ddiffoddwr tân wrth gefn, nid yw talu cyfraniadau ychwanegol mor syml gan fod eich cyflog yn amrywio.