Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Salwch

Os oes gan ddiffoddwr tân ddigon o wasanaeth i fod yn gymwys i dderbyn pensiwn ac y mae yn barhaol anabl i gyflawni dyletswyddau ei rôl, gellir ei ystyried ar gyfer pensiwn yn unrhyw oed. Mae dwy haen o ddyfarndaliad:

  • pensiwn haen is sy’n seiliedig ar y fformiwla sylfaenol h.y. 1/60fed x gwasanaeth pensiynadwy x cyflog pensiynadwy terfynol;
  • pensiwn haen uwch sy’n seiliedig ar y fformiwla sylfaenol ynghyd ag ychwanegiad i’r gwasanaeth h.y. 2% x y gwasanaeth cronedig hyd ddiwrnod diwethaf y gwasanaeth x y gwasanaeth arfaethedig yn 60 oed.

Dyfernir pensiwn haen uwch yn unig os oes gan y diffoddwr tân 5 mlynedd o leiaf o wasanaeth cymwys ac y mae’n anabl i gyflawni unrhyw waith rheolaidd arall. NI all fod yn fwy na 40/60fed x y cyflog pensiynadwy terfynol.

Gellir cyfnewid rhan o bensiwn haen is am gyfandaliad.