Budd-dâl Oherwydd Anaf
Mae CPDT 2007 yn cynnwys darpariaethau ar gyfer anafiadau ac iawndal.
Mae pob un o’r canlynol yn gymwys i dderbyn dyfarndaliad anafiadau os ydyw’n bodloni’r amodau o ran cymhwyster:
- diffoddwr tân rheolaidd llawn amser neu ran-amser;
- diffoddwr tân yn cyflawni dyletswyddau wrth gefn;
- diffoddwr tân gwirfoddol;
- gweithwyr eraill Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA) mewn amgylchiadau neilltuol ac yn ôl disgresiwn y GTA;
- priod neu bartner sifil sy’n goroesi neu blentyn yr uchod; a
- perthynas ddibynnol yn ôl disgresiwn y GTA.
Dalier Sylw
Mae diffoddwyr tân sy’n cael eu galw ar gyfer Gwasanaeth Lluoedd Wrth Gefn hefyd yn gymwys.