Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Absenoldeb o'r Gwaith

Yn ystod cyfnod o absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu â thâl, byddwch yn talu cyfraniadau yn ôl graddfa’r cyflog a dderbyniwch; os bydd cyfnod ychwanegol o absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu yn ddi-dâl cewch y dewis o dalu cyfraniadau yn ôl graddfa’r cyflog yr oeddech yn ei dderbyn yn union cyn i’r tâl ddod i ben os dymunwch gyfrif y cyfnod hwn fel gwasanaeth pensiynadwy.

Os ydych wedi cael cyfnod o absenoldeb di-dâl am resymau eraill (yn cynnwys absenoldeb salwch â chaniatâd), mae gennych y dewis o dalu cyfraniadau (ar sail y cyflog y byddech wedi’i dderbyn heblaw am yr absenoldeb) fel y gellir cyfrif y cyfnod fel gwasanaeth pensiynadwy.

Dalier Sylw

Os ydych wedi cael cyfnod o absenoldeb di-dâl am resymau eraill (yn cynnwys absenoldeb salwch â chaniatâd), byddai’n rhaid i chi dalu cyfraniadau’r gweithiwr a chyfraniadau’r cyflogwr. (Mae gan y Gwasanaeth Tân ac Achub ddisgresiwn i dalu cyfraniad y cyflogwr ar eich rhan).