Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Aelodaeth

I fod yn gymwys i dderbyn buddion pensiwn, rhaid bod gennych 3 mis o leiaf o wasanaeth cymwys yn CPT 2007. Os ydych yn gweithio’n rhan-amser, neu mae gennych gyfnod o wasanaeth rhan-amser, bydd eich gwasanaeth yn cael ei addasu yn unol â’ch oriau gwaith rhan-amser.

  • Diffoddwyr Tân Wrth Gefn

Dalier Sylw

Os ydych yn ddiffoddwr tân rheolaidd a hefyd yn cyflawni dyletswyddau wrth gefn, cofiwch nodi fod terfyn ar y gwasanaeth pensiynadwy y gallwch ei gronni yn CPT 2007 dan ddau gontract. Y terfyn yw 45 mlynedd. Mae hynny’n gymwys os yw’r gwaith rheolaidd a’r gwaith wrth gefn gyda’r un awdurdod tân ac achub neu gydag un gwahanol. Os bydd eich gwasanaeth pensiynadwy cyfunol yn fwy na 45 mlynedd bydd gennych hawl i ad-daliad o’r cyfraniadau dros ben.