Buddion Marwolaeth
Os ydych yn marw mewn swydd a chithau’n aelod o CPT 2007, bydd grant marwolaeth yn daladwy. Fel arfer bydd hwnnw’n 3 gwaith eich cyflog pensiynadwy ar ddyddiad y farwolaeth. Os ydych yn gweithio’n rhan-amser bydd y grant marwolaeth sy’n daladwy 3 gwaith eich cyflog pensiynadwy pro rata.
Er nad yw’r grant marwolaeth ond yn daladwy pan fo’r diffoddwr tân yn aelod gweithredol o CPT 2007, mewn achos o farwolaeth yn digwydd ar ôl i bensiwn ddechrau cael ei dalu, caiff gwerth 5 mlynedd o bensiwn ei dalu yn gyfandaliad, yn eithaf tebyg i grant marwolaeth.
Os bydd diffoddwr tân yn marw wedi ymddeol ac y mae wedi derbyn pensiwn am lai na 5 mlynedd, mae grant marwolaeth yn daladwy. Y swm a delir yw’r gwahaniaeth rhwng y pensiwn a dderbyniwyd eisoes a’r swm fyddai wedi cael ei dalu dros y cyfnod o 5 mlynedd.
Mae gan y gwasanaeth tân ac achub ddisgresiwn absoliwt o ran i bwy y mae’n talu’r grant marwolaeth ond gall ystyried unrhyw enwebiad a wnaed.
Beth os wyf yn Ddiffoddwr Tân Wrth Gefn?
Seilir y grant marwolaeth sy’n daladwy os byddwch yn marw mewn swydd, ar gyfran eich cyflog pensiynadwy cyfwerth ag amser llawn, wedi’i addasu yn ôl eich gwasanaeth pensiynadwy. Mae’r grant marwolaeth yn 3 gwaith y swm hwnnw.
Dalier Sylw
NID oes unrhyw grant marwolaeth na thaliad gwarantedig mewn perthynas â phensiwn gohiriedig nad yw wedi dechrau cael ei dalu ar farwolaeth y diffoddwr tân.