Cynllun Pensiwn Tân 2015
Mae’r adran hon yn benodol i’r Diffoddwyr Tân hynny sy’n cyfrannu ar hyn o bryd i Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 (CPT 2015) o 1 Ebrill 2015 ymlaen, neu sydd wedi gadael y Cynllun gyda Buddion Gohiriedig neu sydd eisoes yn cael Pensiwn.
Mae’n nodi prif ddarpariaethau CPT 2015, ond dylech nodi NA fydd y wybodaeth a ddangosir yn drech na Rheoliadau CPT 2015 (a wnaethpwyd o dan Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013).
Dalier Sylw
Efallai y bydd y cynnwys yn yr adran hon yn agored i'w newid, fel bydd diwygiadau rheoleiddio pellach yn cael eu gwneud.
Gellir gweld mwy o wybodaeth am ddiwygio Cynllun y Diffoddwyr Tân ar wefan y Llywodraeth.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, fel awdurdod gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed a gweinyddwr Cynlluniau Pensiwn yr Heddlu a Diffoddwyr Tân, yn defnyddio eich data personol yn unol â’r ddeddfwriaeth Diogelu Data i ddarparu gwasanaethau gweinyddu pensiwn i chi. Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio'ch data, pwy rydym yn ei rhannu â, a pha hawliau sydd gennych chi mewn perthynas â'ch gwybodaeth, cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Bensiwn Dyfed.