Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Ysgariad

Mewn achos o ysgaru, diddymu partneriaeth sifil, dirymu priodas neu ymwahanu barnwrol, gall llys orchymyn bod cynllun pensiwn yn talu’r cyfan neu ran o hawlogaeth pensiwn aelod i’w gyn-briod neu i’w bartner sifil. Gellid gwneud hyn yn unol â gorchymyn atafaelu (y cyfeirir ato weithiau fel Gorchymyn Clustnodi) neu o dan delerau Gorchymyn Rhannu Pensiwn.

Gallai Gorchymyn Clustnodi ymwneud â’r cyfan neu ran o’ch pensiwn ymddeol, eich cyfandaliad posibl ac efallai eich cyfandaliad budd marwolaeth. Os byddech eisoes wedi ymddeol, gallai’r Gorchymyn wneud yn ofynnol talu pensiwn ar unwaith i’ch cyn-briod neu i’ch cyn-bartner sifil. Os byddech yn aelod actif neu’n aelod gohiriedig, ni fyddai’r Gorchymyn yn cael effaith hyd nes deuai’r buddion yn daladwy.

Byddai Gorchymyn Rhannu Pensiwn yn cael effaith ar unwaith. Yn unol â chyfarwyddyd y llys, byddai canran o werth eich buddion yn cael ei didynnu a’i throsglwyddo i gyfrif credyd pensiwn a sefydlid gan yr awdurdod ar gyfer eich cyn-briod neu’ch cyn-bartner sifil (a fydd wedyn yn dod yn 'aelod â chredyd pensiwn' o CPT 2015).

Dalier Sylw

Er mwyn darparu'r wybodaeth angenrheidiol o ran eich bensiwn i'r Llys, bydd gofyn i chi ddarparu Gwerth Cyfwerth ag Arian o'ch buddion pensiwn yn CPT 2015. Os yw hyn yn wir, cysylltwch â Cronfa Bensiwn Dyfed i wneud y cais hwn.