Buddion Marwolaeth
Pe byddech farw tra’n gwasanaethu fel aelod actif o CPT 2015, byddai cyfandaliad o fudd marwolaeth yn daladwy, sef swm cyfwerth â thair gwaith eich tâl terfynol fel yr oedd ar ddyddiad eich marwolaeth. Y tâl terfynol arferol yw’r uchaf o’r canlynol:
- swm tâl pensiynadwy a thâl pensiynadwy tybiedig yr aelod yn ystod ei 365 diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy di-dor; neu
- swm tâl pensiynadwy a thâl pensiynadwy tybiedig yr aelod yn ystod ei 3 blynedd olaf o wasanaeth pensiynadwy, wedi ei rannu gyda thri.
Pe bai gennych fwy nag un cyfrif aelod actif, byddai cyfandaliad o fudd marwolaeth yn daladwy mewn perthynas â phob un o’r cyfrifon hynny.
Pe byddech farw o fewn 5 mlynedd ar ôl y dyddiad y daeth eich pensiwn yn daladwy, byddai cyfandaliad o fudd marwolaeth yn daladwy, cyfwerth â’r gwahaniaeth rhwng pum gwaith y swm blynyddol o bensiwn a chyfanswm y rhandaliadau o bensiwn a dalwyd h.y. balans o 5 mlynedd.
Dalier Sylw
Os oeddech yn aelod actif ac yn aelod-bensiynwr ar ddyddiad y farwolaeth, swm y cyfandaliad o fudd marwolaeth a fyddai’n daladwy yw’r mwyaf o’r hyn a delid mewn perthynas â’r aelodaeth actif, neu mewn perthynas â’r aelodaeth pensiynwr.
Caiff y Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA), yn ôl ei ddisgresiwn absoliwt, dalu’r cyfandaliad budd marwolaeth i, neu er budd, enwebai’r aelod, ei gynrychiolwyr personol, neu unrhyw berson y mae’n ymddangos i’r rheolwr cynllun a fu’n berthynas neu’n ddibynnydd yr Aelod o’r Cynllun.