Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Aelodaeth

Mae aelodaeth o CPT 2015 yn agored i unrhyw berson sy’n ymgymryd â chyflogaeth fel diffoddwr tân gydag GTA ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015, ar delerau sy’n peri ei bod, neu y gall fod, yn ofynnol i’r person hwnnw gymryd rhan mewn ymladd tân, a bod ei rôl yn cynnwys datrys digwyddiadau gweithredol, neu arwain a chefnogi eraill i ddatrys digwyddiadau o’r fath.

Mae cofrestru yn y Cynllun yn digwydd yn awtomatig wrth benodi. Nid yw’n gwneud gwahaniaeth pa system ddyletswydd y contractiwyd chi i weithio oddi tani - gallwch fod yn ddiffoddwr tân rheolaidd amser llawn neu ran-amser, yn ddiffoddwr tân o dan y system wrth gefn neu’n wirfoddolwr. Os cewch eich symud yn ddiweddarach, i rôl ymladd tân nad yw’n cynnwys datrys digwyddiadau gweithredol, cewch barhau’n aelod o’r Cynllun ar yr amod bod gennych barhad gwasanaeth.

Os ydych wedi ymuno cyn 1 Ebrill 2015

Bydd diffoddwyr tân a oedd yn gwasanaethu cyn 1 Ebrill 2015, ac yn aelodau o CPT 1992 neu CPT 2007, wedi eu trosglwyddo yn orfodol i CPT 2015, oni bai ei fod wedi derbyn diogelwch penodol.  

Caiff y rhai a drosglwyddwyd yn orfodol o gynllun cynharach, p'un ai ar 1 Ebrill 2015 neu'n hwyrach, eu hystyried yn gymwys i fod yn aelodau o CPT 2015 hyd yn oed os nad ydyn nhw bellach yn bodloni'r gofynion gweithredol a nodir uchod, ar yr amod bod parhad gwasanaeth.

Dalier Sylw

Oherwydd dyfarniad yr Uchel Lys ym mis Rhagfyr 2018 mewn perthynas â’r diogelwch trosiannol anghyfreithlon a roddir i aelodau presennol CPT 1992 / CPT 2007, bydd rheoliadau’r Cynllun yn newid maes o law i ystyried y rhwymedi.

Ceisiwch gael Gyngor Ariannol Annibynnol os ydych yn ystyried optio allan.

Os byddwch yn optio allan o’r Cynllun ond yn newid eich meddwl yn ddiweddarach, bydd modd ichi gyflwyno dewisiad ysgrifenedig wedi ei lofnodi i’r GTA er mwyn ailymuno, ar yr amod y byddwch, y pryd hwnnw, yn bodloni’r amodau aelodaeth.

Yn ogystal, o dan y gofynion 'ailgofrestru awtomatig' a gyflwynwyd gan Ddeddf Pensiynau 2008, sy’n effeithio ar bob cyflogwr yn y DU, bydd rhaid i’r GTA, ar adegau rheolaidd, ailgofrestru aelodau sydd wedi optio allan, yn ôl i mewn i gynllun pensiwn. Bydd gennych yr hawl i optio allan drachefn, os dyna fydd eich dewis. Ar yr amod y dewiswch yr opsiwn hwnnw o fewn 3 mis ar ôl dyddiad yr ailgofrestriad awtomatig, bydd hawl gennych i gael ad-daliad o unrhyw gyfraniadau a dalwyd ers y dyddiad hwnnw.