Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Cipolwg o'r Cynllun

Mae nodweddion allweddol CPT 2015 yn cynnwys:

  • Cynllun pensiwn Enillion Ailbrisiedig Cyfartaledd Gyrfaol (CARE). Ar gyfer pob Blwyddyn Cynllun (1 Ebrill i 31 Mawrth) fel aelod gweithredol, byddwch yn adeiladu pensiwn sy'n gyfartal ag 1/61.4 o'ch Enillion Pensiynadwy am y flwyddyn honno, ac yna caiff ei ychwanegu at eich cyfrif pensiwn a wedyn ailbrisiwyd bob blwyddyn nes byddwch yn ymddeol.
  • Gallwch gymudo rhan (hyd at 25%) o'ch pensiwn ar gyfradd 1:12, hynny yw am bob £1 o bensiwn a gymudid, byddai’n cael cyfandaliad o £12.
  • Ailbrisiwyd eich cyfrif pensiwn ar ddiwedd pob Blwyddyn Cynllun yn unol â’r symudiadau yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI).
  • Eich Oedran Ymddeol Arferol (OPA) yw 60, ond bydd gennych yr opsiwn i ymddeol yn wirfoddol o 55 oed gyda lleihad actiwaraidd i adlewyrchu'r taliad cynnar.
  • NID oes uchafswm cyfnod o wasanaeth. Os byddwch yn penderfynu parhau i wasanaeth y tu hwnt i'ch OPA, bydd eich cyfrif pensiwn yn gymwys i gynnydd actiwaraidd i adlewyrchu'r taliad hwyr.
  • Os ydych yn marw fel aelod actif, darperir budd marwolaeth ar ffurf cyfandaliad o dair gwaith y tâl terfynol.
  • Bydd pensiwn goroeswr yn cael ei dalu'n awtomatig i'ch priod neu'ch partner sifil am eu hoes, er y bydd angen cwblhau datganiad er mwyn talu pensiwn o'r fath i bartner nad yw'n briod nac yn bartner sifil.
  • Gall plant dibynnol dan 23 oed fod yn gymwys i dderbyn pensiwn.
  • Os byddwch yn gadael neu'n optio allan o'r Cynllun, heb gymryd ad-daliad o'ch gyfraniadau pensiwn, bydd eich buddion yn cael eu gohirio a byddant yn daladwy o'ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (OPW), a all newid yn y dyfodol. Os caiff ei dalu'n gynnar ar gais, bydd gostyngiad actiwaraidd yn cael ei gymhwyso, oni bai eich bod yn feddygol barhaol yn anaddas ar gyfer cyflogaeth rheolaidd, ac os felly ni fydd unrhyw ostyngiad actiwaraidd yn cael ei gymhwyso.
  • Mae prynu 'pensiwn ychwanegol' ar hyn o bryd yn gyfyngedig i £6,500 y flwyddyn, ond gellir newid y terfyn gan Trysorlys EM.