Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Absenoldeb o'r Gwaith

Os byddwch yn absennol am gyfnod o absenoldeb di-dâl awdurdodedig, cewch wneud dewisiad i dalu cyfraniadau yn unol â’ch cyfradd arferol, ar sail y 'tâl pensiynadwy tybiedig', sef y tâl pensiynadwy y byddech wedi ei gael oni bai am yr absenoldeb di-dâl. Caniateir talu nail ai mewn cyfandaliad neu drwy ddidynnu o randaliadau tâl pensiynadwy, fel y cytunir gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA) ac o fewn terfynau amser penodol

  • Absenoldeb Salwch neu Anaf
  • Absenoldeb cysylltiedig â Phlentyn
  • Absenoldeb Anghydfod Undebol
  • Absenoldeb Gwasanaeth Lluoedd Wrth Gefn

Dalier Sylw

Caiff y GTA wneud yn ofynnol hefyd eich bod yn talu’r cyfraniadau cyflogwr y byddid wedi eu talu oni bai am yr absenoldeb.

NI fydd unrhyw gyfnod o amser pan oeddech wedi optio allan o GPT 2015 yn cyfrif tuag at croniad eich pensiwn.