Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Oedran Ymddeol

Bydd hyn yn dibynnu ar eich oedran ac ar yr amgylchiadau pan fyddwch yn gadael y Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA). Yr Oedran Pensiwn Arferol (OPA) yw 60, ond os byddwch yn parhau yn aelod actif o’r CPT 2015, gallwch barhau i grynhoi pensiwn (a byddech yn cael 'ychwanegiad oedran' i adlewyrchu’r ffaith eich bod wedi gohirio cael eich pensiwn). NID oes cyfyngiad ar swm y pensiwn y caniateir ei grynhoi drwy barhau yn y gwasanaeth.

Cewch ofyn am dalu eich pensiwn cyn 60 oed ar yr amod eich bod eisoes wedi cyrraedd 55 oed. Fodd bynnag, gellir lleihau’r pensiwn i adlewyrchu’r ffaith eich bod yn ymddeol yn gynnar. Neu, mewn unrhyw oedran o dan 60, os digwydd ichi fynd yn analluog i gyflawni unrhyw un o ddyletswyddau eich rôl, gallech fod yn gymwys i gael dyfarniad afiechyd.

Os peidiwch â bod yn aelod actif o’r Cynllun cyn bod hawl gennych i gael taliad o fuddion ymddeol, a bod gennych o leiaf 3 mis o wasanaeth cymwys neu werth trosglwyddiad wedi ei dalu i mewn i’ch cyfrif pensiwn, byddwch yn dod yn aelod gohiriedig o’r Cynllun. Yn yr achos hwn, byddech yn dod yn gymwys i gael taliad o’ch pensiwn ar sail oedran pan gyrhaeddech yr oedran pensiwn gohiriedig, sef yr un oedran â’ch oedran pensiwn y wladwriaeth, neu 65 os yw 65 yn uwch.

Pe baech yn dymuno, gallech roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod, i’w hysbysu yr hoffech gael eich pensiwn gohiriedig yn 55 oed neu ar ôl hynny ond cyn eich oedran pensiwn gohiriedig. Mewn amgylchiadau o’r fath, fodd bynnag, byddai’r pensiwn yn ddarostyngedig i ostyngiad talu’n gynnar, ar sail ffactorau a ddarperid gan actiwari’r Cynllun.

Neu os byddech, cyn cyrraedd oedran pensiwn gohiriedig, yn dioddef o afiechyd i’r graddau y byddech yn analluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd, a byddai’r analluogrwydd hwnnw’n parhau tan o leiaf yr oedran pensiwn gohiriedig, gallech ofyn am dalu’r pensiwn gohiriedig yn gynnar ar sail afiechyd. Byddai’r penderfyniad ynghylch hawlogaeth yn cael ei wneud gan yr ATA ar ôl ystyried barn ysgrifenedig Ymarferydd Meddygol Cymwysedig Annibynnol.