Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Tâlu eich Buddion

Telir pensiynau, fel arfer, mewn ôl-daliadau misol gan yr GTA. Telir cyfandaliadau cymudo gan yr GTA cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddynt ddod yn ddyledus.

Os bydd y pensiwn yn daladwy yn yr Oedran Pensiwn Arferol (60), bydd rhaid i’r aelod actif wneud hawliad am daliad o’r pensiwn; os ceir yr hawliad cyn diwedd y gyflogaeth, bydd y taliad yn dechrau ar y diwrnod ar ôl diwedd y gyflogaeth. Os na cheir yr hawliad tan ar ôl diwedd y gyflogaeth, bydd y pensiwn yn cael ei dalu o ddyddiad ar ôl dyddiad yr hawliad – hysbysir yr aelod o’r dyddiad hwnnw gan yr GTA.

Pan fo aelod actif wedi dewis yr opsiwn o ran-ymddeoliad, mae’r pensiwn yn daladwy o’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr arferwyd yr opsiwn o ran-ymddeoliad. Y cyfnod cyntaf y mae pensiwn afiechyd yn daladwy ar ei gyfer yw’r diwrnod ar ôl y dyddiad y terfynir cyflogaeth Gynllun yr aelod.

Bydd pensiynau ar gyfer partneriaid sy’n goroesi a phlant cymwys yn cael eu talu o’r diwrnod ar ôl dyddiad marwolaeth yr aelod. Yn achos plentyn cymwys a enir ar ôl marwolaeth yr aelod, bydd y taliad yn dechrau o ddyddiad genedigaeth y plentyn.

Gallwch enwebu rhywun y dymunwch iddo gael y cyfandaliad budd marwolaeth, ond mae disgresiwn absoliwt gan yr awdurdod ynglŷn â’r derbynnydd/derbynyddion, gan gynnwys cynrychiolwyr personol a enwir mewn Grant Profiant neu Lythyron Gweinyddu.

Os pensiwn bach yn unig sy’n daladwy, a’r pensiwn hwnnw islaw terfynau a bennir gan Gyllid a Thollau EM, yna, ar yr amod y bodlonir gofynion penodol eraill y rheolau treth and (megis oedran y pensiynwr) caiff yr awdurdod gymudo’r pensiwn hwnnw yn gyfandaliad. Neu gall yr GTA benderfynu estyn y ysbeidiau rhwng rhandaliadau o bensiwn bach, o gymharu â’r ysbeidiau rhwng taliadau o bensiynau arferol.

  • Treth Incwm
  • Dyddiadau Tâlu - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Dyddiadau Tâlu - Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Newid eich Cyfeiriad
  • Newid Manylion eich Cyfrif Banc
  • Ailbrisiad