Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Trosglwyddo Buddion Blaenorol

Ar ddechrau eich cyflogaeth, gofynnir ichi roi manylion am aelodaeth o unrhyw gynllun pensiwn blaenorol, a nodi a hoffech i’r GTA ymchwilio i’r posibilrwydd o drosglwyddo hawliau pensiwn i CPT 2015. Gall CPT 2015 dderbyn trosglwyddiad o gynllun pensiwn galwedigaethol arall sydd wedi ei gofrestru gyda Chyllid a Thollau EM, cynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys, neu gynllun pensiwn personol.

Rhaid gwneud cais am drosglwyddiad mewn ysgrifen. Gallai’r GTA roi syniad enghreifftiol ichi o swm y pensiwn y gallai’r trosglwyddiad ei ychwanegu at eich cyfrif pensiwn. Dylech gymharu hwnnw ag unrhyw opsiynau pensiwn eraill a gynigid ichi gan eich cynllun blaenorol, a phenderfynu, o fewn y terfynau amser, a ddylech fynd ymlaen â’r trosglwyddiad ai peidio.

Os buoch yn gweithio yn y gorffennol I GTA y tu allan i Gymru, byddai trosglwyddiad o’ch hawliau pensiwn blaenorol yn cael ei wneud yn unol ag egwyddorion tebyg i’r hyn a amlinellir uchod

Gall ddigwydd, fodd bynnag, y byddwch yn symud o gyflogaeth gydag un GTA Cymreig i gyflogaeth gydag GTA Cymreig arall. Eto, ar ddechrau eich cyflogaeth newydd, dylech ddweud wrth yr awdurdod newydd am yr hawliau pensiwn a ddelir gan yr awdurdod blaenorol (hyd yn oed os bu toriad rhwng y ddwy gyflogaeth). Ar yr amod na fu unrhyw doriad a oedd yn hwy na phum mlynedd, bydd eich awdurdod blaenorol yn darparu tystysgrif ichi, a fydd yn dangos y cofnodion yn eich cyfrif(on) pensiwn a ddelir gan yr awdurdod hwnnw, a bydd eich awdurdod newydd yn trosglwyddo’r manylion i’r cyfrif(on) pensiwn a sefydlir ganddo ar gyfer eich cyflogaeth newydd. Ond ni wneir unrhyw daliad trosglwyddo rhwng y ddau GTA.

Gwneir darpariaethau arbennig os oedd y toriad rhwng cyflogaethau yn hwy na phum mlynedd. Mewn amgylchiadau o’r fath, gallwch gael gwybodaeth fanylach gan eich GTA.

Dalier Sylw

Bydd rhai cyfyngiadau a therfynau amser yn bodoli, a fydd yn dibynnu ar y math o gynllun pensiwn y gofynnir am drosglwyddiad ohono - gall y GTA roi gwybod ichi am y rhain ac esbonio pa wybodaeth arall y bydd ei hangen gennych chi neu gan y cynllun pensiwn arall ynghylch y trosglwyddiad a geisir.