Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Cynyddu eich Pensiwn

Os byddwch, fel aelod actif o CPT 2015, yn dymuno cynyddu eich pensiwn ymddeol a’ch buddion marwolaeth, cewch wneud hynny naill ai ar ffurf taliadau rheolaidd neu gyfandaliad.

Fodd bynnag, cyfyngir ar swm y pensiwn ychwanegol y caniateir ei brynu yn y modd hwn. Ar gyfer y flwyddyn gynllun 1 Ebrill 2015 i 31 Mawrth 2016 y terfyn cyffredinol yw £6,500. (Ar gyfer unrhyw flwyddyn gynllun a fydd yn cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2016 y terfyn cyffredinol fydd yr hyn a ddyfernir ar gyfer y Cynllun gan Drysorlys EM ac a gyhoeddir cyn dechrau’r flwyddyn gynllun).

Am fwy o wybodaeth ynghylch prynu Pensiwn Ychwanegol, cysylltwch â Cronfa Bensiwn Dyfed.

Dalier Sylw

Os byddwch yn dymuno manteisio ar yr opsiwn hwn, dylech hysbysu’r Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA) mewn ysgrifen.