Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Gadael y Cynllun

Cewch optio allan o CPT 2015 ar unrhyw adeg os nad ydych yn dymuno bod yn aelod. Er mwyn gwneud hynny, rhaid ichi roi hysbysiad ysgrifenedig wedi ei lofnodi i’r GTA. Ystyrid wedyn eich bod wedi arfer yr opsiwn ar y dyddiad y mae’r GTA yn cael yr hysbysiad.

Os byddwch yn optio allan cyn diwedd 3 mis o gyflogaeth Gynllun ddi-dor, neu o fewn 3 mis ar ôl ailgofrestru yn awtomatig, byddwch yn cael eich trin fel pe na baech wedi bod mewn cyflogaeth bensiynadwy yn ystod y cyfnod hwnnw, a byddwch yn cael ad-daliad o’r cyfraniadau a dalwyd gennych ar gyfer y cyfnod hwnnw.

Os byddwch yn optio allan ar ôl cyfnod o 3 mis neu ragor o wasanaeth di-dor mewn cyflogaeth Gynllun, neu 3 mis neu ragor ar ôl ailgofrestru yn awtomatig, byddwch fel arfer yn cael eich trin fel pe baech wedi terfynu eich gwasanaeth pensiynadwy yn y Cynllun ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod tâl sy’n dilyn yn union ar ôl y cyfnod yr optiwyd allan ynddo. Byddwch wedyn yn dod yn aelod gohiriedig o’r Cynllun o’r dyddiad hwnnw ymlaen a byddwch yn peidio â chael unrhyw ddiogelwch pellach o dan CPT 2015, ac eithrio’r hyn a ddarperir i aelod gohiriedig.

  • Ad-daliad o Chyfraniadau
  • Buddion Gohiriedig
  • Trosglwyddo eich Buddion

Dalier Sylw

Ceisiwch gyngor ariannol annibynnol os ydych yn ystyried optio allan. Byddech yn arbed cost y cyfraniadau, ond hwyrach y byddech yn talu mwy o dreth (mae’r cyfraniadau yn denu rhyddhad treth). Byddai eich dibynyddion hefyd yn peidio â chael diogelwch pensiwn.

Fodd bynnag, byddai Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân yn parhau i’ch diogelu rhag niwed cymwys a allai ddigwydd i chi.