Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Cyfrifo eich Buddion

Os ydych yn aelod actif mewn Oedran Pensiwn Arferol (60) gallwch gymryd eich pensiwn unrhyw adeg ar neu ar ôl eich pen-blwydd yn 60. Wedyn, bydd eich cyfrif aelod actif ac unrhyw gyfrif pensiwn ychwanegol yn cael eu cau a chyfrif ymddeol yn cael ei sefydlu. Ni wneir unrhyw ostyngiad oherwydd talu’n gynnar, ac mae’n bosibl y rhoddir ychwanegiad oedran, os byddwch wedi parhau i wasanaethu ar ôl cyrraedd 60 oed.

Fodd bynnag, os ydych yn aelod actif, ond yn dymuno cael eich pensiwn cyn eich bod yn 60 oed, gallwch roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA), i’w hysbysu yr hoffech gael eich pensiwn pan gyrhaeddwch 55 oed neu ar ôl hynny. Yn yr amgylchiadau hynny, fodd bynnag, byddai’r ymddeoliad cynnar yn achosi gostyngiad yn eich pensiwn, a seilid ar ffactorau a ddarperid gan actiwari’r Cynllun.

Mae opsiwn ar gael hefyd ar gyfer 'ymddeol yn rhannol', unwaith y byddwch wedi cyrraedd 55 oed, os byddwch yn dymuno cael eich pensiwn ond parhau eich cyflogaeth fel diffoddwr tân heb doriad a chrynhoi pensiwn ychwanegol.

Byddai eich cyfrif aelod actif ac unrhyw gyfrif pensiwn ychwanegol yn cael eu cau, a’r pensiwn a ddelid yn y cyfrifon hynny yn cael ei dalu (yn ddarostyngedig i ostyngiad talu’n gynnar, os na fyddech wedi cyrraedd 60 oed). Byddai cyfrif aelod actif newydd yn cael ei agor, ar gyfer y pensiwn a fyddai’n crynhoi wrth ichi barhau eich aelodaeth. Byddai’r ail bensiwn hwnnw yn dod yn daladwy, ar delerau cyffelyb i’ch pensiwn cyntaf, bryd bynnag y byddech yn barod i’w gymryd.

Pan fyddwch yn ymddeol, bydd gennych yr opsiwn i gyfnewid rhan o'r pensiwn i ddarparu cyfandaliad (a elwir hefyd yn Gymudo). 

  • Enillion Pensiynadwy
  • Cyfrif Pensiwn
  • Cyfnewid eich Pensiwn