Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Salwch

Gellir ystyried diffoddwr tân, nad yw wedi cyrraedd yr oedran pensiwn arferol (60 oed) ac sy’n gadael oherwydd anabledd parhaol, ar gyfer pensiwn afiechyd. Os dyfernir pensiwn afiechyd, bydd cyfrif aelod actif ac unrhyw gyfrif pensiwn ychwanegol yr aelod yn cael eu cau, a chyfrif ymddeol yn cael ei agor.

Mae dwy haen o bensiwn afiechyd, sef yr haen isaf a’r haen uchaf. Mae lleiafswm o 3 mis o wasanaeth cymwys yn ofynnol ar gyfer pensiwn afiechyd haen isaf a lleiafswm o 5 mlynedd o wasanaeth cymwys ar gyfer pensiwn afiechyd haen uchaf. Y canlynol yw’r amodau meddygol y mae’n rhaid eu bodloni i fod yn gymwys am ddyfarniad afiechyd:

  • ar gyfer pensiwn afiechyd haen isaf, rhaid i’r person fod yn analluog i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau’r rôl y cyflogwyd yr aelod ynddi ddiwethaf, oherwydd anallu meddyliol neu gorfforol a fydd yn parhau nes cyrraedd oedran pensiwn arferol (sef 60 oed);
  • ar gyfer pensiwn afiechyd haen uchaf, rhaid i’r person fod yn gymwys i gael pensiwn afiechyd haen isaf a hefyd, oherwydd anallu meddyliol neu gorfforol a fydd yn parhau nes cyrraedd oedran pensiwn arferol, fod yn analluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd.

Ystyr cyflogaeth reolaidd yw cyflogaeth am o leiaf 30 awr yr wythnos ar gyfartaledd am gyfnod o ddim llai na 12 mis yn olynol gan ddechrau gyda'r dyddiad pan fo mater galluogrwydd person i wneud gwaith cyflogedig yn codi.

Dalier Sylw

Y GTA a fydd yn penderfynu a ellir talu pensiwn, ond cyn gwneud hynny, rhaid i’r GTA gael ac ystyried barn ysgrifenedig Ymarferydd Meddygol Cymwysedig Annibynnol (YMCA).