Cipolwg o'r Cynllun
Mae nodweddion allweddol CPT 2007 yn cynnwys:
- Cynllun Cyflog Terfynol, sy’n golygu bod eich pensiwn yn cael ei gyfrif fel cyfran o’ch cyflog pensiynadwy terfynol. Eich enillion yn ystod eich blwyddyn olaf o wasanaeth yn aelod o’r Cynllun yw hynny fel arfer.
- Dibynna’r pensiwn a dderbyniwch ar eich gwasanaeth pensiynadwy, ac ar gyfer y rhan fwyaf o ddiffoddwyr tân mae hynny’n golygu y gwasanaeth yr ydych wedi talu cyfraniadau pensiwn amdano, gydag addasiadau priodol ar gyfer gwasanaeth rhan-amser.
- Oedran pensiwn arferol yw 60. Fodd bynnag gall diffoddwr tân ymddeol cyn hynny wedi cyrraedd 55 oed neu’n hŷn a derbyn pensiwn yn ddi-oed ond byddai 5% o leihad actiwaraidd yn y swm.
- Mae pob blwyddyn o wasanaeth pensiynadwy yn rhoi hawl i 1/60fed o’r cyflog terfynol, hyd at uchafswm o 40/60fed.
- Mae dewis i gyfnewid rhan o’r pensiwn am gyfandaliad di-dreth.
- Mae pensiynau a delir yn cael eu cynyddu i gyfrif am chwyddiant.
- Mae cyfandaliad grant marwolaeth sy’n 3 gwaith y cyflog yn daladwy ac mae gennych rywfaint o ryddid o ran enwebu’r sawl sydd i’w dderbyn.
- Mae pensiwn i briod neu bartner sifil yn daladwy am oes, fel arfer mae’r pensiwn hwn yn hanner y pensiwn y mae’r diffoddwr tân â hawl iddo.
- Gall partner nad yw’n briod nac yn bartner sifil fod yn gymwys i dderbyn pensiwn sy’n daladwy am oes yn amodol i feini prawf penodol yn gael eu bodloni.
- Gall plant dibynnol dan 23 oed fod yn gymwys i dderbyn pensiwn.
- Mae cyfandaliad a phensiwn di-oed yn daladwy i unrhyw diffoddwr tân o unrhyw oed sy’n cael ymddeol ar sail salwch.
- Mae cyfleuster i brynu mwy o bensiwn yn y Cynllun (blynyddoedd ychwanegol) o fewn y terfyn cyffredinol o 40 mlynedd.
- Mae gan bob diffoddwr tân y cyfle i ddewis peidio ag ymuno â’r Cynllun neu ei adael.
- Os ydych yn cronni hawliau pensiwn yn y Cynllun ond yn gadael Gwasanaeth Tân ac Achub (neu’n gadael y Cynllun) cyn ymddeol, bydd gennych hawl i bensiwn gohiriedig a delir ar gyrraedd 65 oed.