Gadael y Cynllun
Os nad ydych yn dymuno bod yn aelod o GDT 1992, gallwch adael unrhyw adeg drwy roi rhybudd ysgrifenedig i’r Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA). Bydd y rhybudd yn dod i rym o’r dyddiad cyflog nesaf. Gyda fwy na 2 flynedd o wasanaeth, bydd gennych hawl i bensiwn gohiriedig neu drosglwyddo’r hawliau pensiwn a gronnwyd i drefniant pensiwn arall.
O adael y Cynllun, NI fyddwch mwyach yn derbyn buddion CDT 1992 (heblaw am y rheiny a ddarperir gan bensiwn gohiriedig). Mewn achos o anaf cymwys fodd bynnag, byddwch yn parhau i ddod o dan ddarpariaethau Cynllun Iawndal Diffoddwyr Tân.
Os byddwch yn newid eich meddwl yn y man ac yn dymuno ailymuno â’r cynllun, byddwch wedyn yn ymuno a Cynllun 2015. Bydd eich dewis i ymuno â’r Cynllun yn dod i rym ar y dyddiad cyflog nesaf.
Dalier Sylw
Os ydych chi'n ystyried gadael y CPT 1992, argymhellir yn gryf i chi ofyn am Gyngor Ariannol Annibynnol cyn gwneud hynny.
Os penderfynwch chi optio allan, byddech yn arbed cost y cyfraniadau, ond mae'n debyg y byddai'n talu mwy trwy dreth (gan fod cyfraniadau'n denu rhyddhad treth). Hefyd, byddech chi a'ch goroeswr yn peidio â chael y gorchudd sicrwydd bywyd ychwanegol y mae'r CPT 1992 yn ei ddarparu.
Gan y bydd gennych bellach wasanaeth cymwys o 2 mlynedd neu'n fwy yn CPT 1992, NI fyddwch yn gymwys i dderbyn ad-daliad o gyfraniadau.