Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Diogelwch y Cynllun

Bydd yr holl aelodau sydd heb ei amddiffyn wedi trosglwyddo i GPT 2015 ar 1 Ebrill 2015.

Os, o'r 1 Ebrill 2012, yr oeddech o fewn 10 mlynedd o'ch Oedran Pensiwn Arferol (OPA) o dan Cynllun 1992 h.y. a anwyd cyn 1 Ebrill 1967 ac o'r 1 Ebrill 2012, yn 45 mlwydd oed neu'n hŷn, bydd DIM newid i'ch oedran ymddeol, ac ni fydd unrhyw ostyngiad i'r swm pensiwn y byddwch yn ei dderbyn ar eich Oedran Pensiwn Arferol. Os yw hyn yn wir, ystyrir eich bod yn aelod â gwarchodaeth trosiannol ac felly bydd yn parhau i fod yn GPT 1992 ac ni fydd yn trosglwyddo i GPT 2015.

Mae 4 blynedd arall o warchodaeth dwys ar gyfer aelodau gweithredol, a oedd, o'r 1 Ebrill 2012, hyd at 14 mlynedd o'u OPA presennol o dan Cynllun 1992 h.y. a anwyd rhwng 1 Ebrill 1967 a'r 1 Ebrill 1971 ac felly rhwng 41 a 45 mlwydd oed.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd y gwarchodaeth dwys yn berthnasol, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed.

Dalier Sylw

Caiff yr holl hawliau cronedig yn y Cynllun 1992 eu gwarchod a bydd y buddion blaenorol hynny yn parhau i gael eu cysylltu â'ch tâl pensiynadwy terfynol pan fyddwch yn gadael y Cynllun 2015.

Fodd bynnag, os ydych yn aelod efo gwarchodaeth dwys, fe fydd codiad i'ch pensiwn gwarchodedig o Gynllun 1992 os na fyddwch yn ymddeol cyn dyddiad terfyn eich gwarchodaeth dwys ac felly byddwch yn drosglwyddo i Gynllun 2015. Bydd y cynnydd hwn yn cael ei gymhwyso i adlewyrchu'r croniad dwbl ar eich gwasanaeth Cynllun 1992 (ar ôl 20 mlynedd). Ar ôl cwblhau 30 mlynedd o wasanaeth (Cynllun 1992 a Cynllun 2015 wedi'i gyfuno), bydd eich gwasanaeth o dan Cynllun 1992 yn cael ei throsi i 1/45fed (o 1/60fed).