Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Salwch

Os oes gennych 2 flynedd o leiaf o wasanaeth pensiynadwy (neu os yw’n llai na hynny mae gennych hawl i ddyfarndaliad dan y Cynllun Iawndal) ac yr ydych yn barhaol anabl i gyflawni dyletswyddau eich rôl, gallech unrhyw oed gael eich ystyried ar gyfer pensiwn salwch.

Mae dwy haen i’r dyfarndaliad; yr haen is a’r haen uwch. Mae’r haen is yn darparu pensiwn salwch haen is yn unig; mae’r haen uwch yn darparu pensiwn salwch haen is a phensiwn salwch haen uwch. Dyfernir yr haen is pan fo diffoddwr tân yn barhaol anabl i gyflawni dyletswyddau ei rôl. Dyfernir haen uwch pan fo’r diffoddwr tân yn barhaol anabl ar gyfer unrhyw waith rheolaidd arall hefyd. Mae gwaith rheolaidd yn y cyswllt hwn yn golygu gwaith am gyfartaledd o 30 awr yr wythnos dros gyfnod o 12 mis.

Os oes gennych lai na 5 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy, caiff y pensiwn salwch haen is ei gyfrif yn yr un ffordd â phensiwn ymddeol ar sail oed. Os oes gennych 5 mlynedd neu fwy o wasanaeth pensiynadwy, caiff y pensiwn salwch haen is ei gyfrif yn yr un ffordd â phensiwn gohiriedig.

Mae dwy ran i’r modd y cyfrifir hwn. Mae’r rhan gyntaf yn asesu pensiwn yn cynnwys ychwanegiad i’r gwasanaeth; mae’r cam nesaf yn tynnu o’r pensiwn hwnnw swm sy’n cyfateb i’r pensiwn haen is. Y gwahaniaeth yw’r pensiwn haen uwch.

Mae’r ychwanegiad i’r pensiwn yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth pensiynadwy.

Eich cyfnod o Wasanaeth Pensiynadwy Yr Ychwanegiad a Rhoddwyd
5 neu fwy o flynyddoedd ond llai na 10 mlynedd bydd pob blwyddyn o wasanaeth yn cyfrif fel: 
2/60 x Cyflog Pensiynadwy Cyfartalog
10 neu fwy o flynyddoedd ond llai na 13 mlynedd seilir y fformiwla ar: 
20/60 x Cyflog Pensiynadwy Cyfartalog
Mwy na 13 mlynedd seilir y fformiwla ar:
gwasanaeth pensiynadwy* + 7/60 x CPC

*pob blwyddyn o wasanaeth hyd 20 mlynedd = 1/60; pob blwyddyn o wasanaeth ar ôl 20 mlynedd = 2/60

Fodd bynnag ni ddylai’r pensiwn hwn fod yn fwy na’r pensiwn ymddeol ar sail oed y gellid fod wedi’i ennill ar gyrraedd oed arferol pensiwn sef 55, neu 60 oed. Ni ddylai pensiwn ymddeol ar sail oed fod yn fwy na 40/60fed o gyflog pensiynadwy cyfartalog.

Dalier Sylw

Os oedd gennych gyfnod o wasanaeth rhan-amser, byddai haen is a haen uwch y pensiwn salwch yn cael ei asesu gyntaf fel petai eich gwasanaeth yn llawn amser gydol y cyfnod. Gellir cyfnewid rhan o bensiwn haen is (ond nid pensiwn haen uwch) i ddarparu cyfandaliad.