Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Aelodaeth

Ar 6 Ebrill 2006, caewyd CDT 1992 i aelodau newydd. Yr aelodau presennol yw’r rheiny oedd yn bodloni gofynion yr aelodaeth ac a ymunodd cyn y dyddiad hwnnw, sydd heb adael y cynllun ac sydd heb gael unrhyw doriad ym mharhad eu cyflogaeth ers hynny.

Rhaid bod gennych 2 flynedd o leiaf o wasanaeth pensiynadwy i fod yn gymwys i dderbyn buddion pensiwn dan CDT 1992.

Os ydych yn gweithio'n rhan-amser, addasir eich gwasanaeth i adlewyrchu ei hyd yn rhan-amser. Fodd bynnag, fel cynllun cyflog terfynol bydd eich buddion pensiwn yn cael eu cyfrif ar sail lefel eich cyflog cyfwerth ag amser llawn.

Dalier Sylw

Gan fod y cynllun eisioes wedi cau, ni ellir drosglwyddo hawliau pensiwn i fewn i'r cynllun mwyach.