Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Oedran Ymddeol

Oed arferol pensiwn ar gyfer pob aelod o GDT 1992 yw 55. Os ydych yn dewis ymddeol ar gyrraedd yr oed hwn neu ar ôl hynny byddwch yn derbyn eich pensiwn yn ddi-oed. Gallech ymddeol yn gynt na hynny a derbyn eich pensiwn yn ddi-oed, os ydych wedi cyrraedd 50 oed a gennych 25 mlynedd o leiaf o wasanaeth. Gellir talu pensiwn salwch unrhyw oed.

Os ydych yn gadael CDT 1992 cyn bod yn gymwys i dderbyn budd-daliadau ar sail oed neu oherwydd salwch, gellir dyfarnu pensiwn gohiriedig i chi. Bydd y pensiwn hwn yn daladwy ar gyrraedd 60 oed, neu yn amodol ar dystysgrif feddygol briodol, unrhyw oed ar sail salwch parhaol sy’n eich atal rhag cyflawni dyletswyddau diffoddwr tân neu unrhyw ddyletswyddau sy’n briodol i’ch rôl flaenorol.

Gall y Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA) fynnu eich bod yn ymddeol os ydynt yn ystyried na fyddai er lles effeithlonrwydd yn gyffredinol i’ch cadw. Fodd bynnag, rhaid i chi yr adeg honno fod yn gymwys i dderbyn taliad pensiwn ymddeol yn ddi-oed, gan y byddech wedi cyrraedd 50 oed ac yn meddu ar 25 mlynedd o leiaf o wasanaeth pensiynadwy.