Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

Tâlu eich Buddion

Telir pensiynau ymlaen llaw mewn rhandaliadau rheolaidd gan Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA) unwaith y bydd wedi derbyn yr holl wybodaeth y mae ei hangen a’i fod yn fodlon fod gan yr unigolyn hawl i’r dyfarndaliad. Mae cyfandaliadau yn sgil cyfnewid yn daladwy cyn gynted â phosib yn dilyn diwrnod olaf o wasanaeth yr aelod.

Mae gan y GTA ddisgresiwn ynghylch i bwy y bydd yn talu dyfarndaliad i unigolyn dan oed, ond rhaid iddo gael sicrwydd y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio er lles yr unigolyn hwnnw. Yn yr un modd, os yw taliad yn ddyledus i unigolyn nad yw bellach yn abl i warchod ei fuddiannau, mae gan y GTA ddisgresiwn i’w dalu i unigolyn arall fel y gwêl yn dda.

Os bydd y GTA yn dioddef colled ariannol oherwydd twyll, dwyn neu esgeulustod ar ran y diffoddwr tân mewn perthynas â’i gyflogaeth, gall y GTA gadw’n ôl rhan neu’r cyfan o unrhyw swm a gollwyd yn unol, mewn achos o anghydfod, â gorchymyn llys.

  • Treth Incwm
  • Dyddiadau Tâlu - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Dyddiadau Tâlu - Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Newid eich Cyfeiriad
  • Newid Manylion eich Cyfrif Banc
  • Ailbrisiad