Dangosfwrdd Pensiynau
10/11/2025Bydd y Dangosfwrdd Pensiynau yn galluogi pobl i gael mynediad at wybodaeth yn ymwneud â’u holl bensiynau ar-lein, yn ddiogel ac i gyd mewn un lle. Bydd yn darparu gwybodaeth glir a syml ynglŷn â chynilion pensiwn niferus, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth.
Er mwyn i chi allu gweld eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar y Dangosfwrdd Pensiynau, rydym angen eich gwybodaeth mwyaf ddiweddar. Mae'n bwysig bod eich cyfeiriad, cyfeiriad ebost a rhif ffôn yn gywir.
Os ydych chi’n credu y gall eich gwybodaeth fod yn anghywir, fe allwch gofrestru neu fewngofnodi I Fy Mhensiwn Ar-lein i ddiweddaru hyn: https://mypensiononline.dyfedpensionfund.org.uk/?locale=cy-GB
Neu gallwch anfon e-bost at pensiynau@sirgar.gov.uk neu ysgrifennu at Dyfed Pension Fund, County Hall, Carmarthen SA31 1JP. Os ydych yn anfon e-bost neu’n ysgrifennu atom, cofiwch gynnwys eich enw, rhif Yswiriant Gwladol a’ch dyddiad geni.
Cronfa Bensiwn Dyfed - Datganiad Gweithredu Dangosfwrdd Pensiynau
1. Cyflwyniad
Mae Cronfa Bensiwn Dyfed wedi ymrwymo i gefnogi Rhaglen Dangosfwrdd Pensiynau Llywodraeth y DU, sy'n anelu at ddarparu mynediad ar-lein diogel i unigolion i'w gwybodaeth bensiwn mewn un lle. Mae'r datganiad hwn yn amlinellu ein dull o baratoi ar gyfer cysylltu â'r ecosystem dangosfyrddau yn unol â gofynion statudol a chanllawiau arfer gorau.
2. Llywodraethu a Goruchwylio
Mae'r Pwyllgor Pensiynau a'r Bwrdd Pensiwn Lleol wedi cael gwybod am ofynion y dangosfwrdd ac wedi cymeradwyo cynllun gweithredu fesul cam. Darperir goruchwyliaeth gan y rheolwr pensiynau, gyda diweddariadau rheolaidd wedi'u trefnu i sicrhau atebolrwydd ac olrhain cynnydd.
3. Parodrwydd Data
Rydym wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o ddata ein haelodau gan ddefnyddio Canllawiau Data PASA a rhestr wirio "Paratoi i Gysylltu" TPR. Mae'r camau gweithredu allweddol yn cynnwys:
• Glanhau a dilysu cofnodion aelodau
• Gwella meini prawf paru i wella cywirdeb chwilio ar y dangosfwrdd
• Adolygu data AVC ac aelodau gohiriedig ar gyfer cyflawnrwydd
4. Paratoi Technegol
Mae'r Gronfa wedi bod yn gweithio gyda'i darparwr meddalwedd i sicrhau cydymffurfiaeth y dangosfwrdd, gan gynnwys:
• Integreiddio API ar gyfer cysylltedd dangosfwrdd
• Protocolau dilysu diogel
• Galluoedd ymateb amser real ar gyfer ymholiadau dangosfwrdd
5. Amserlen
Yn unol ag amserlen raddol yr Adran Gwaith a Phensiynau, bydd Cronfa Bensiwn Dyfed wedi'i cysylltu â'r ecosystem dangosfwrdd ar 31 Hydref 2025 yn amodol ar gadarnhad terfynol gan y Rhaglen Dangosfwrdd Pensiynau a'n partneriaid technoleg.
6. Asesiad o'r Effaith ar Reoli Risg a Phrosesu Data
Mae cofrestr risg y gronfa wedi'i diweddaru ac mae Asesiad o'r Effaith ar Reoli Risg a Phrosesu Data wedi'i greu i nodi'r materion posibl, gan gynnwys:
• Risgiau ansawdd data
• Pryderon seiberddiogelwch a phreifatrwydd
• Heriau cyfathrebu aelodau
7. Ymgysylltu ag Aelodau
Rydym wedi cyhoeddi cyfathrebiadau i aelodau'r cynllun a chyflogwyr y cynllun mewn perthynas â'r Dangosfwrdd Pensiynau. Bydd hyn yn parhau nes bod dyddiad 'mynd yn fyw' y Dangosfwrdd yn cael ei gyhoeddi a bydd gan aelodau fynediad at eu data pensiwn.
8. Cydymffurfiaeth ac Adrodd
Bydd y Gronfa yn cydymffurfio â'r holl ddyletswyddau statudol o dan y Rheoliadau Dangosfyrddau Pensiynau a bydd yn adrodd am unrhyw ddiffyg cydymffurfiaeth yn unol â chanllawiau TPR.