Newidiadau i Fuddion Goroeswyr

25/03/2019

Gwnaed newid i reolau'r cynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus i ddarparu bod buddion goroeswyr sy'n daladwy i briodion o'r un rhyw neu i bartner sifil yn gyfartal â'r buddion a delir i weddw aelod gwrywaidd.

Pam y gwnaethpwyd y newid?

Gwnaethpwyd y newid o ganlyniad i ddyfarniad y Goruchaf Lys (Walker v Innopsec) a ganfu fod gan briod gwrywaidd Mr Walker yr hawl i gael yr un buddion a fyddai wedi cael eu talu pe bai Mr Walker wedi gadael gwraig weddw mewn priodas rhyw arall.

Pam mae hyn yn berthnasol i Gynlluniau Pensiwn Gwasanaeth Cyhoeddus?

Mae'r llywodraeth yn credu mai goblygiad y dyfarniad hwn ar gyfer pob cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys y CPLlL, cynllun pensiwn yr Heddlu a'r Diffoddwyr Tân, yw y dylid darparu buddion i bartneriaid sifil sy'n goroesi neu i briodion o'r un rhyw sy'n goroesi sy'n cyfateb i'r rhai a fyddai'n cael eu gadael i weddw aelod gwrywaidd.

Pryd mae'r newid yn dod i rym?

Caiff y newid ei ôl-ddyddio i'r dyddiad y cyflwynwyd y partneriaethau sifil a phriodasau o'r un rhyw, sef 5ed Rhagfyr, 2005 ar gyfer partneriaethau sifil a 13eg Mawrth, 2014 ar gyfer priodasau o'r un rhyw.

Mae hyn yn golygu, lle mae aelod o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus wedi marw gan adael partner sifil sy'n goroesi neu briod o'r un rhyw, bydd angen adolygu pensiwn y goroeswr sy'n cael ei dalu ac unrhyw symiau ychwanegol a dalwyd, lle bo hynny'n berthnasol. 

Rydym wrthi'n adolygu effaith y newid hwn ar hyn o bryd a byddwn yn cysylltu â phartneriaid sifil a effeithiwyd, a gwŷr priod o'r un rhyw cyn bo hir.

Bydd y newid yn cael ei ystyried yn awtomatig o ran buddion goroeswyr a delir i bartneriaid sifil a gwŷr priod o'r un rhyw yn y dyfodol.