Safonau Byw Ymddeol
28/02/2020Mae'r Gymdeithas Pensiynau ac Arbedion Oes (PLSA) wedi cyhoeddi teclyn ar-lein, o'r enw Safonau Byw Ymddeol.
Fe'i datblygwyd ar y cyd ag ymchwil annibynnol a gynhaliwyd gan Brifysgol Loughborough i helpu unigolion i ddarlunio pa fath o ffordd o fyw y gallem ei chael ar ôl ymddeol, yn seiliedig ar 3 astudiaeth achos safon byw; lleiaf, cymedrol a chyffyrddus.
Er mwyn darganfod mwy am y Safonau Byw Ymddeol, bydd angen i chi gyrchu eu gwefan, ond yn anffodus, nid yw eu gwefan wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg.