Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol

Mae gan bob Cronfa Bensiwn Llywodraeth Leol Gynllun Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) mewnol sy'n fodd ichi fuddsoddi arian, wedi'i didynnu'n syth o'ch tâl, trwy'r ei'n darparwyr Prudential neu Standard Life. Dylai eich cronfa Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol dyfu wrth iddi gael ei buddsoddi a bydd ar gael yn ddiweddarach yn eich bywyd i'w throsi: yn bensiwn ychwanegol o'ch dewis, lwmp swm di-dreth neu gyfuniad o'r ddau.

Cofiwch fod modd ichi gyfrannu hyd at 100% o'ch cyflog misol (ar ôl i'r holl ddidyniadau statudol gael eu gwneud) i'ch cronfa Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol. Hefyd gallwch ddiweddaru eich lefel gyfrannu fel y mynnwch, yn ogystal â newid y gronfa rydych am fuddsoddi ynddi.

Gallwch wneud taliad i'r trefniant Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol yn uniongyrchol o'ch cyflog. Gallwch dalu canran o'ch cyflog neu gallwch dalu swm penodedig os ydych yn dymuno, a gallwch hefyd newid y swm ar unrhyw adeg.

Pan fyddwch yn ymddeol, gallwch dderbyn rhywfaint neu'r cwbl o'ch cronfa CGY fel cyfandaliad di-dreth (yn amodol ar derfynau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi).

Beth os bu imi ddechrau trefniant Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol ar 31 Mawrth 2014 neu cyn hynny?

NI allwch cyfrannu mwy na 50% o'ch cyflog misol (ar ôl i'r holl ddidyniadau statudol gael eu gwneud).

Aswiriant Bywyd Ychwanegol

Gallwch hefyd dalu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol mewnol i ddarparu aswiriant bywyd ychwanegol. Mae’r CPLlL eisoes yn darparu yswiriant sy’n werth TAIR gwaith eich cyflog os ydych yn marw mewn swydd, ond gallwch gynyddu’r swm hwn neu ei ddefnyddio i ddarparu budd-daliadau ychwanegol ar gyfer eich dibynyddion os byddwch yn marw mewn swydd. Gallai hyn fod yn amodol ar lenwi holiadur meddygol yn foddhaol.

Dalier Sylw

I gael rhagor o wybodaeth am ddewis Prudential, ewch i wefan y Prudential

Er mwyn canfod rhagor o wybodaeth am ddewis Standard Life, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dyfed.