Cyfraniadau

6% o'r lwfans a gewch yw eich cyfradd gyfrannu. Mae'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn gynllun statudol a gwarentir y budd-daliadau dan y gyfraith.

Yn aelod o'r cynllun, cewch ostyngiad yn y dreth mewn perthynas â'r cyfraniadau a wnewch, gan fod y rhain yn cael eu didynnu o'ch lwfans cyn talu treth.

Bydd y Cyngor wedyn yn talu gweddill cost darparu eich buddion ar ôl rhoi ystyriaeth i'r elw ar fuddsoddiadau. Bob tair blynedd, mae actiwari annibynnol yn cyfrifo faint y dylai'r Cyngor ei gyfrannu i'r Cynllun.