Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Mae gofyniad wedi cael ei gyflwyno yng Nghymru a Lloegr ar gyfer Awdurdodau Lleol sy'n gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), i gynhyrchu Adroddiad Blynyddol (i'w gyhoeddi erbyn 1 Rhagfyr), sy'n cynnwys manylion ar:
- rheoli a pherfformiad ariannol yr holl gronfeydd CPLlL
- polisi buddsoddi a pherfformiad buddsoddiadau
- y trefniadau gweinyddu yn ystod y flwyddyn
- datganiad gan yr actiwari ar lefel gyllido y cynllun
- datganiad cydymffurfio llywodraethu
- datganiad ynghylch cyfrif asedau net ar gyfer pob gronfa
- cydymffurfio â'r strategaeth gweinyddu pensiynau
- datganiad strategaeth gyllido
- datganiad strategaeth buddsoddi
- datganiad o bolisi sy'n ymwneud â chyfathrebu ag aelodau ac awdurdodau cyflogi
- deunydd priodol arall
Mae Datganiad Cyfrifon y Gronfa wedi'i gynnwys yn ei Adroddiad Blynyddol a'i Gyfrifon, ac mae yn dwyn at ei gilydd, ar ffurf gryno, ein trafodion ariannol. Cyfnod yr adroddiad yw 12 mis, hyd at 31 Mawrth. Mae'r Adroddiad Blynyddol a'i Gyfrifon yn cael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Archwilio Cyngor Sir Gâr.