Cyfuno Buddsoddiadau

Yng Nghyllideb yr Haf 2015, cyhoeddwyd y bydd y Llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau gweinyddol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) i ddiwygio'r modd o reoli’r buddsoddiadau yn y CPLlL yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r 91 cronfeydd pensiwn CPLlL yn Lloegr a Chymru wedi cychwyn yr arfer o gronni eu hasedau mewn i wyth pyllau buddsoddi mewn ymdrech i leihau costau buddsoddi ac i alluogi cronfeydd i ddatblygu'r cynhwysedd a'r gallu i ddod yn arweinwyr mewn buddsoddiad isadeileddau ac i helpu i greu twf yn economi'r DU.

Y disgwyl yw y bydd y pyllau buddsoddi newydd yn dechrau cael eu defnyddio ar gyfer buddsoddi cyfunol o 1 Ebrill 2018 ymlaen.

Y sefyllfa bresennol yng Nghymru

Mae Cronfa Bensiwn Dyfed wedi bod yn gweithio ar y cyd â'r saith cronfa pensiwn llywodraeth leol eraill yng Nghymru am nifer o flynyddoedd ar nifer o faterion ac rydym yn symud ymlaen tuag at gael pwll buddsoddi i Gymru.

Mae cynnig ar weithio gyda'n gilydd yng Nghymru wedi cael ei gyflwyno i'r Llywodraeth Ganolog a'r ymateb a gafwyd oedd i barhau i ddatblygu'r cynllun. Mae cyflwyniad mwy manwl wedi cael ei wneud ym mis Gorffennaf ac rydym yn aros am ymateb. Mae gwaith yn parhau i ddylunio'r llywodraethu a strwythur y gronfa.