Buddsoddi Cyfrifol

Mae Buddsoddi Cyfrifol yn rhan sylfaenol o strategaeth fuddsoddi gyffredinol y Gronfa fel y’i cyflwynwyd yn y Datganiad Strategaeth Fuddsoddi hwn. Hynny yw, sicrhau’r enillion mwyaf posib yn amodol ar lefel dderbyniol o risg yn ogystal â chynnig mwy o sicrwydd cost i gyflogwyr, a lleihau cost hirdymor y cynllun. Cred y Gronfa fod ystyried ffactorau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu Corfforaethol ("ESG") yn sylfaenol yn hyn o beth, yn enwedig felly pan maent yn debygol o effeithio ar yr amcan buddsoddi cyffredinol.

Polisi Buddsoddi Cyfrifol