Telerau a Ddefnyddiwyd

Actiwari

Ymgynghorydd annibynnol sy'n rhoi cyngor ynghylch hyfywdra’r Gronfa. Mae'r actiwari'n adolygu asedau a rhwymedigaethau'r gronfa bob tair blynedd ac yn cyflwyno adroddiad i'r Cyngor Sir, sef yr awdurdod gweinyddu, ar y sefyllfa ariannol, ac yn argymell cyfraddau cyfrannu'r cyflogwyr. Gelwir hyn yn brisio/brisiant actiwaraidd.

Adenillion Meincnod

Nod Rheolwr y Gronfa yw perfformio 1% yn well na'r adenillion meincnod. Yr adenillion meincnod yw'r adenillion y byddai Rheolwr y Gronfa wedi'u cyflawni petai heb wyro oddi wrth y pwysau a roddwyd i bob dosbarth o asedau gan y Panel Buddsoddi ac wedi llwyddo i gael adenillion ym mhob un o'r dosbarthiadau hyn o asedau yn unol â chyfartaledd yr adenillion a wnaed gan bob Cronfa Awdurdod Lleol yn y dosbarthiadau hynny. Mae pwysau Meincnod y dosbarthiadau o asedau wedi'u hamlinellu yn y Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi.

Ecwitis

Cyfranddaliadau cyffredin mewn cwmnïau yn y Deyrnas Unedig a thramor – cyfranddaliadau sy'n cael eu gwerthu/prynu mewn cyfnewidfa stoc gydnabyddedig. Mae gan gyfranddalwyr fudd yn elw'r cwmni ac fel rheol bydd ganddynt hawl i bleidleisio yng nghyfarfodydd y Cyfranddalwyr.

Gwarannau Llog Sefydlog

Buddsoddiadau yn stociau’r llywodraeth yn bennaf, sy'n gwarantu cyfradd llog sefydlog. Mae'r gwarannau'n fenthyciadau sydd i'w had-dalu ar ddyddiad penodol yn y dyfodol ond gellir eu gwerthu ar y Farchnad Stoc yn y cyfamser.

Dangosyddion y Farchnad

(i) Mae'r symudiadau yn y Farchnad Stoc yn cael eu monitro yn barhaus drwy gyfrwng Mynegai o brisiau cyfredol sampl gynrychioliadol o stoc.
(ii) Newid yn y cyfraddau cyfnewid arian.

Gwerth ar y Farchnad

Y pris a geir o werthu buddsoddiad ar ddyddiad penodol.

Portffolio

Term torfol am yr holl fuddsoddiadau a ddelir mewn cronfa, marchnad neu sector.

Budd-daliadau a gedwir/Budd-daliadau gohiriedig

Y budd-daliadau pensiwn sy'n daladwy i aelod o'r Gronfa ar gyrraedd oedran ymddeol arferol sydd wedi stopio cyfrannu o ganlyniad i adael ei waith neu ddewis gadael y Cynllun Pensiwn cyn oedran ymddeol arferol.

Adenillion

Cyfanswm yr adenillion o ddal buddsoddiad am gyfnod penodol, yn cynnwys incwm a chynnydd (gostyngiad) yng ngwerth y farchnad.

Y Gwerth Trosglwyddo

Dyma werth y taliadau rhwng cronfeydd pan fydd cyfranwyr yn ymadael â gwasanaeth un cyflogwr ac yn penderfynu mynd â gwerth eu cyfraniadau pensiwn i gronfa eu cyflogwr newydd.

Cynnydd / (Gostyngiad) heb ei wireddu yn y Gwerth ar y Farchnad

Y cynnydd / gostyngiad a fu ers dyddiad y pryniant, ar werth ar y farchnad y buddsoddiadau hynny a ddelir ar ddiwedd y flwyddyn.