A allaf ymuno â'r Cynllun?

Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar gael i bawb sy’n gweithio i Lywodraeth Leol neu sy’n gweithio i sefydliadau eraill sydd wedi dewis bod yn rhan o’r Cynllun.

I ddod yn aelod o'r Cynllun yn awtomatig, rhaid ichi fod yn gweithio i Gyflogwr sy'n rhan o'r cynllun, bod â chontract cyflogaeth 3 mis neu ragor a bod dan 75 oed.

Neu, os oes gennych gontract llai na 3 mis, ni fyddwch yn cael eich cynnwys yn y Cynllun yn awtomatig ond mae modd ichi ddewis ymaelodi.

Os ydych yn dymuno ymaelodi â'r Cynllun, llenwch y ffurflenni yn yr adran hon a'u rhoi i'ch Cyflogwr.